Previous Millennium Stadium Charitable Trust Projects

Telerau ac Amodau

(1) Gellir defnyddio’r grant a gynigir dim ond ar gyfer y dibenion a ddisgrifir ac a nodwyd fesul eitem yn y cais. Ni chaniateir newidiadau (trosglwyddo arian) yn y defnydd o’r symiau a nodir fesul eitem heb gytundeb ymlaen llaw.

(2) Os bydd cost y prosiect yn wahanol i’r rhai a ragwelwyd yn eich cais, bydd taliad y grant yn amodol ar i’r ymgeisydd ddangos cyllideb ddiwygiedig yn dangos cost wirioneddol y prosiect.

(3) Ni thelir grantiau hyd nes y bydd Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm yn derbyn cydnabyddiaeth ffurfiol o’r cynnig o gymorth grant. Caiff y grant ei dalu drwy siec.

(4) Bydd rhaid dychwelyd unrhyw danwario o’r grant ar ddiwedd y prosiect i Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm o fewn 14 diwrnod i gais am ad-daliad.

(5) Mae’n rhaid i’r prosiect y cynigir y grant ar ei gyfer gael ei gwblhau o fewn 12 mis i ddyddiad cynnig y grant.

(6) Mae’r Ymddiriedolaeth yn gorff cynnig grantiau ac mae ei gyfrifoldebau wedi’u cyfyngu i ddarparu ariannu ar gyfer y dibenion -ac yn amodol ar yr amodau - a bennir yn unrhyw grant a gymeradwyir.

(7) Nid oes gan yr Ymddiriedolaeth y bwriad, yr adnoddau na’r cyfrifoldeb i archwilio neu i roi barn ar allu ac addasrwydd neu beidio ceisiadau ar gyfer materion megis arolygaeth a diogelwch, yswiriant, amddiffyn plant a hyfforddi.

(8) Bydd angen i’r ymgeiswyr fodloni eu hunain ynglŷn â materion o'r fath ac i gymryd y camau sy’n ymddangos yn angenrheidiol iddynt mewn unrhyw achos arbennig.

(9) Mae’n amod y grant bod cydnabyddiaeth yn cael ei rhoi i Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm drwy sylw yn y wasg a/neu frandio ar offer ac ati. Gwneir y cais hwn er mwyn cefnogi’r Ymddiriedolaeth yn ei hymdrechion i wneud y gronfa yn fwy hysbys i ymgeiswyr posibl eraill.

(10) Bydd yn rhaid i sefydliad roi gwybodaeth bellach ac adroddiadau ar gynnydd pan ofynnir iddo.

(11) Bydd gofyn i bob ymgeisydd lenwi ffurflen werthuso ar ddiwedd eu prosiect. Dylai ymgeiswyr llwyddiannus sicrhau bod eu cofnodion yn cael eu cadw a bod y prosiect wedi’i ddogfennu’n dda er mwyn bodloni gofynion yr Ymddiriedolaeth ar gyfer cwblhau’r adroddiad hwn. Mae’n rhaid cadw derbynebau am bob pryniant a wnaed fel rhan o’r prosiect ar gyfer y diben hwn.

(12) Rhaid i ymgeiswyr hysbysu'r Ymddiriedolaeth am unrhyw newid yn y manylion cyswllt, yn cynnwys newidiadau i bersonél allweddol neu newid o ran manylion cyfeiriad neu ffôn.

DEDDF DIOGELU DATA

Dylai ymgeiswyr nodi y gall enwau sefydliadau a ariannir gan Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm a’r symiau a dderbyniant gael eu rhyddhau i’r cyhoedd drwy ddatganiadau i’r wasg. Mae’r wybodaeth hon hefyd ar gael yn adroddiad blynyddol yr Ymddiriedolaeth ac ar gais

Bydd Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm yn defnyddio’r wybodaeth a ddarparwyd ar y ffurflen gais (ac yn ystod bywyd y grant, os y’i dyfernir) i weinyddu a dadansoddi ceisiadau a grantiau. Gall yr Ymddiriedolaeth roi copïau o ran neu’r cyfan o’r wybodaeth hon i unigolion ac i sefydliadau yr ymgynghorir â hwy wrth asesu ceisiadau a monitro grantiau. Gall y sefydliadau a’r unigolion hyn gynnwys aseswyr, cyfrifwyr allanol a sefydliadau a grwpiau eraill sydd â rhan mewn cyflenwi’r prosiect. Hefyd gall yr Ymddiriedolaeth rannu’r wybodaeth gyda sefydliadau sy’n rhoi ariannu cyfatebol, cyrff cyhoeddus eraill a sefydliadau ac unigolion eraill sydd â diddordeb dilys mewn ceisiadau am grant i Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm.

Er mwyn cynorthwyo'r Ymddiriedolaeth i fodloni anghenion sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, gall data a ddarperir hefyd gael ei ddefnyddio at ddiben ymchwil fewnol ac allanol, adrodd a hyrwyddo. Gall yr Ymddiriedolaeth o bryd i’w gilydd anfon rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r Ymddiriedolaeth i ymgeiswyr.