
Datganiad Hygyrchedd
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wefan hon yn hygyrch i bawb. Rydym wedi ceisio gwneud i'r wefan hon gydymffurfio â'r canllawiau canlynol:
- XHTML 1.0 Trawsnewidiol
- CSS 2.0
- WAI A
Er mwyn dilysu ein cod rydym wedi defnyddio Bobby 5.0
Mae Bobby yn offeryn meddalwedd cynhwysfawr ar gyfer cyrchu'r we sydd wedi ei fwriadau i gynorthwyo i amlygu a dileu rhwystrau at hygyrchedd ac annog cydymffurfiad â'r canllawiau hygyrchedd presennol. Mae Bobby yn profi cydymffurfiad â safonau'r llywodraeth, yn cynnwys Adran 508 Llywodraeth yr UDA. Mae'n cynnig awgrymiadau a flaenoriaethwyd yn seiliedig ar Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We a ddarparwyd gan Fenter Mynediad i'r We Consortiwm Gwefan Byd-eang (W3C). Mae Bobby yn caniatáu i ddatblygwyr brofi tudalennau gwefan a chynhyrchu adroddiadau cryno sy'n amlygu materion hygyrchedd hollbwysig cyn gosod cynnwys ar weinyddwyr byw.
Porwyr
Mae Gwefan Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm wedi ei phrofi ar y rhan fwyaf o'r prif borwyr sydd ar gael heddiw. I weld gwefan Ymddiriedolaeth Stadiwm y Mileniwm ar ei gorau argymhellwn eglurder o 1024x768 ac mewn o leiaf 65,000 lliw.
Mae gwefan Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm wedi'i phrofi yn y porwyr canlynol:
- Internet Explorer 5.5 ac uwch
- Firefox 1.0 ac uwch
- Netscape 7 ac uwch
- AOL 9
- Opera 8 ac uwch
- Safari 1.0



