
Ein Nodau
Drwy ei ariannu nod yr Ymddiriedolaeth yw gwella ansawdd bywyd pobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Yn arbennig mae'r Ymddiriedolaeth yn anelu at hyrwyddo addysg, hanes, iaith a chwedloniaeth, yn enwedig ar gyfer y rhai hynny sy'n wynebu anfantais neu wahaniaethu.Mae Cymru yn wlad gyfoethog o ran ei diwylliant, ei hanes, ei hiaith a'i llwyddiannau mewn chwaraeon. Yn y cyfnod hwn lle mae globaleiddio ar gynnydd mae pobl yn aml yn anghofio beth sydd yn eu hardal leol.



