
Yr Amgylchedd
Mae amgylchedd Cymru yn amrywio’n fawr iawn rhwng Gogledd, De-ddwyrain a Gorllewin y wlad. O fynyddoedd y Gogledd i gymoedd y De, mae’r Ymddiriedolaeth yn croesawu ceisiadau yn ymwneud â grwpiau amgylcheddol o ardaloedd gwledig a threfol Cymru.Blaenoriaethau Ariannu
Mae’r Ymddiriedolaeth yn annog ceisiadau yn ymwneud ag ailgylchu, datblygu gofodau gwyrdd, datblygu a hyrwyddo arferion gwyrdd a hyrwyddo cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd prosiectau sy’n gwella ansawdd amgylchedd Cymru, yn diogelu a chreu cefn gwlad ffyniannus ac yn datblygu a hyrwyddo cynllunio defnydd tir cynaliadwy yn flaenoriaeth ar gyfer cefnogaeth.
Nod yr Ymddiriedolaeth yw ariannu rhaglenni sy’n gwarchod ac yn cyfoethogi treftadaeth naturiol Cymru ac yn hyrwyddo’r defnydd cynaliadwy a’r mwynhad ohono mewn modd fydd yn cyfrannu i ffyniant yr economi leol a chynhwysiant cymdeithasol.



