Previous Millennium Stadium Charitable Trust Projects

Sut i wneud Cais

Darllenwch yn Drwyadl Cyn Cyflwyno Cais.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais er mwyn gwneud cais i gynllun grant Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm, gwnewch yn siŵr bod yr atebion ym mhob adran yn gryno. Bellach mae’r geiriau’n cael eu cyfrif ar y cwestiynau sy’n gofyn am atebion.

Gofynnir i ymgeiswyr ddarllen canllawiau’r cynllun grant yn drwyadl cyn rhoi pin ar bapur.   Bydd yr Ymddiriedolaeth bellach yn gweithredu tri chylch y flwyddyn, un am bob math o gais – Rhanbarthol, Lleol a Chenedlaethol.

Mae’r cynllun ar agor nawr i dderbyn ceisiadau oddi wrth gyrff Rhanbarthol. Bydd yn cau ddydd Llun 6 Medi 2010 am 12 canol dydd. Bydd yr Ymddiriedolwyr yn cwrdd yng nghanol Tachwedd i ddyfarnu arian i’r ymgeiswyr Rhanbarthol. Gan hynny bydd angen i brosiectau fod yn dechrau ar ôl mis Rhagfyr 2010.

Bydd y cynllun ar agor o ganol Tachwedd tan 22 Rhagfyr i dderbyn ceisiadau oddi wrth gyrff Lleol. Bydd yr Ymddiriedolwyr yn cwrdd yn gynnar ym mis Mawrth i ddyfarnu arian i ymgeiswyr Lleol. Gan hynny bydd angen i brosiectau fod yn dechrau ar ôl canol Mawrth 2011.

Bydd y cynllun ar agor o Fawrth cynnar tan 22 Ebrill i dderbyn ceisiadau oddi wrth gyrff Cenedlaethol. Bydd yr Ymddiriedolwyr yn ar ddiwedd Mehefin i ddyfarnu arian i ymgeiswyr Cenedlaethol. Gan hynny bydd angen i brosiectau fod yn dechrau ar ôl Gorffennaf 2011.

Ar hyn o bryd dim ond drwy’r post y gellir gwneud ceisiadau ac mae’n rhaid iddynt gynnwys copi o gyfansoddiad y sefydliad a’i gyfriflen banc mwyaf diweddar. Mae’n rhaid i enw’r ymgeisydd fod yr un a’r enw ar y cyfansoddiad a’r gyfriflen banc. Ni ddylai’r ceisiadau gynnwys dim gwybodaeth ychwanegol - ni chaiff unrhyw wybodaeth arall a gynhwysir gyda’r cais ei hystyried pan asesir y cais gan yr Ymddiriedolaeth a chaiff ei dinistrio yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Gofynnir i ymgeiswyr gadw copi o’u cais i’w galluogi i gyfeirio ato os bydd yr Ymddiriedolaeth angen unrhyw wybodaeth ychwanegol er mwyn dod i benderfyniad.

Ni all yr Ymddiriedolaeth dderbyn cyfrifoldeb dros fethiant i gyflwyno cais os yw’r ymgeisydd wedi methu cymryd y camau priodol i sicrhau bod y cais yn cyrraedd swyddfa’r Ymddiriedolaeth.

RHAID i geisiadau gael eu derbyn erbyn hanner dydd ar y dyddiad cau. Gofynnir i ymgeiswyr nodi NA chaiff ceisiadau a ddaw drwy ffacs neu e-bost eu derbyn.

Gofynnir i ymgeiswyr sicrhau bod y gwerth priodol o ran stampiau wedi ei ddefnyddio wrth bostio. Ni fydd stamp dosbarth cyntaf yn ddigonol ac ni all yr Ymddiriedolaeth fforddio talu ffioedd postio dyledus.

Amserlenni

Gweler uchod am amserlen y cylchoedd a dyddiadau cyfarfodydd. Rhoddir gwybod i bob ymgeisydd am ganlyniad eu cais yn ysgrifenedig yn fuan ar ôl yr amser yma.

Mae penderfyniad y bwrdd yn derfynol ac ni all ymgeiswyr apelio yn erbyn penderfyniad yr Ymddiriedolaeth.

Mae arian yn cael ei roi ar sail flynyddol. Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus 12 mis i ymgymryd â’u prosiect o ddyddiad y cynnig grant.

Gall ymgeiswyr nad ydynt yn llwyddiannus wneud cais eto i’r Ymddiriedolaeth.

Ni fydd ymgeiswyr sy’n llwyddiannus yn gallu gwneud cais arall i’r Ymddiriedolaeth nes bod cyfnod o dair blynedd wedi mynd heibio o ddyddiad y cynnig grant gwreiddiol.

Application form (Welsh)

Ymddiriedolaeth