
Cwestiynau a Ofynnir yn Fynych
C. A yw’r cynllun grant hwn wedi disodli’r cyn gynlluniau Activate a Traws Cymru a weinyddwyd gan yr Ymddiriedolaeth?A. Ydy, mae’r ddau gynllun grant wedi’u cyfuno yn un a newidiwyd y canllawiau a’r ffurflen gais i wneud y broses yn haws i ymgeiswyr ac yn fwy hwylus i’r Ymddiriedolaeth. Nid yw Activate a Traws Cymru yn gweithredu mwyach.
C. Mae fy sefydliad eisoes wedi derbyn ariannu gan yr Ymddiriedolaeth, a allwn ni ailymgeisio?
A. Mae pob sefydliad elusennol a gwirfoddol yn gymwys i wneud cais i’r cynllun hwn. Fodd bynnag, os caiff ariannu ei gynnig, ni fydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gymwys i ailymgeisio am dair blynedd ar ôl dyddiad y cynnig grant gwreiddiol. Caiff y dyddiad hwn ei gadarnhau yn y llythyr cynnig a anfonir gan yr Ymddiriedolaeth.
C. Rwyf yn awdurdod lleol - a allaf i ymgeisio?
A. Na. Ni chaiff ceisiadau eu derbyn oddi wrth awdurdodau lleol, sy’n cynnwys ysgolion awdurdod lleol. Fodd bynnag gellir derbyn ceisiadau oddi wrth sefydliadau sydd â chyfansoddiad ar wahân megis Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon a Chlybiau ar ôl Ysgol. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn cefnogi ceisiadau gan grwpiau sy’n gweithio gydag Awdurdodau Lleol, ac yn yr achos hwn rhaid mai’r sefydliad yw’r ymgeisydd ac nid yr awdurdod lleol.
C. Gwrthodwyd fy nghais gan yr Ymddiriedolaeth. A allwch chi roi rheswm i mi pam y'i gwrthodwyd?
A. Yn anffodus nid oes proses apelio. Bob blwyddyn derbyniwn lawer rhagor o geisiadau nag a allwn eu hariannu ac felly mae’n rhaid i ni wrthod llawer o geisiadau sydd, er yn gymwys o dan ein canllawiau ni, â blaenoriaeth is iddynt. Nid yw hyn yn adlewyrchiad ar ansawdd prosiect ond yn ganlyniad y pwysau mawr sydd ar ein cronfeydd. Mae gan Ymddiriedolwyr benderfyniadau anodd iawn i’w gwneud a gofynnir i ymgeiswyr fod yn ymwybodol o hyn.
C. Gwrthodwyd cais fy sefydliad ac rydym am ailymgeisio ond nid ydym yn gwybod y rheswm pam y gwrthodwyd ein cais diwethaf. Beth allwn ni ei wneud i wella’n cais?
A. Siaradwch â staff yr Ymddiriedolaeth pan fyddwch yn ailymgeisio. Mae staff yr Ymddiriedolaeth bob amser yn awyddus i gynnig cyngor a gallant yn aml eich cynorthwyo i wella safon eich cais.
C. Pam y mae angen i chi weld copi o’n cyfriflen banc a’n cyfansoddiad?
A. Mae angen i ni wirio bod gan eich sefydliad gyfansoddiad priodol dim er elw. Bydd eich cyfansoddiad neu'ch gweithredoedd ymddiriedolaeth yn rhoi’r wybodaeth hon i ni. Mae eich cyfriflen banc yn rhoi sicrwydd i ni eich bod yn gweithredu fel sefydliad proffesiynol.
C. Nid ydym yn elusen gofrestredig - a allwn ni ddal i wneud cais?
A. Gallwch. Mae’n rhaid i’ch sefydliad fod yn un dim er elw ac yn meddu ar gyfansoddiad priodol.
C. A oes gan yr Ymddiriedolaeth bolisi dwyieithog?
A. Oes. Mae gan yr Ymddiriedolaeth bolisi dwyieithog a gallwch ohebu gyda’r Ymddiriedolaeth yn Saesneg neu Gymraeg ar unrhyw adeg yn ystod y broses gais.


