Previous Millennium Stadium Charitable Trust Projects

Mae'r Etifeddiaeth yn Parhau...

Mae Stadiwm y Mileniwm, menter adeiladu fwyaf arwyddocaol ein cyfnod ni, wedi rhoi llwyfan i'r genedl i gyflwyno digwyddiadau rhyngwladol o faint enfawr - gan roi cyfle i bobl Cymru i weld, a dyheu i efelychu, eu harwyr ym meysydd chwaraeon a diwylliant yn eu gwlad eu hunain.

Mae creu Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm yn codi'r Stadiwm fel rhan annatod o fywyd Cymru i lefel uwch drwy ddarparu cefnogaeth ariannol i brosiectau ysbrydoledig ledled Cymru.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm drwy gytundeb rhwng Stadiwm y Mileniwm ccc a Chomisiwn y Mileniwm. Cynhyrchir incwm yr Ymddiriedolaeth drwy ardoll ar bob tocyn gaiff ei brynu ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus yn y Stadiwm.

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm yn sefydliad elusennol annibynnol ac fe'i gweinyddir gan fwrdd o ymddiriedolwyr gwirfoddol. Dewisir yr Ymddiriedolwyr o bob rhan o Gymru ac maent yn cynrychioli meysydd amrywiol chwaraeon, y gymuned, grwpiau ieuenctid, y celfyddydau a'r amgylchedd.

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm yn sefydliad Cymru gyfan a pha bynnag ddigwyddiad cyhoeddus a gynhelir yn y stadiwm, caiff pob arian a ddosberthir gan yr Ymddiriedolaeth ei wario yng Nghymru. Mae hwn yn gynllun grant unigryw, nid yn unig yng Nghymru ond hefyd ledled y DU.